An abstract image of hands typing on a keyboard

Ofcom yn ymchwilio i Duplanto Ltd o dan reolau gwirio oedran diogelwch ar-lein

Cyhoeddwyd: 28 Awst 2025

Mae Ofcom wedi cyhoeddi ei fod yn ymchwilio i Duplanto Ltd, sy'n rhedeg safle porn, mewn perthynas â chydymffurfio â gofynion gwirio oedran newydd o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.

Ers 25 Gorffennaf, bu’n ofynnol i wefannau sy'n caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho cynnwys pornograffig ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant rhag cael mynediad i'r deunydd hwnnw. Rydym wedi bod yn cadw llygaid manwl ar gydymffurfiaeth cwmnïau ers i'r gofyniad hwn ddod i rym.

Mae ein hymchwiliad i Duplanto Ltd yn un o bum ymchwiliad byw i ddarparwyr safleoedd porn sy'n ymwneud â gwiriadau oedran, yn dilyn y pedwar ymchwiliad a gyhoeddwyd gennym  fis diwethaf.

Mae'r ymchwiliadau hyn yn cwmpasu 35 o wefannau gyda'i gilydd, sy'n ychwanegol at 11 ymchwiliad Ofcom sy'n ymwneud â meysydd eraill o ddiogelwch ar-lein.

Ehangu dau ymchwiliad presennol

Rydym hefyd yn ehangu cwmpas dau ymchwiliad presennol, i AVS Group Limited a Kick Online Entertainment S.A.

Yn ogystal ag ymchwilio i'w cydymffurfiaeth â'r gofyniad i gyflwyno gwiriadau oedran ar gyfer cynnwys pornograffig, rydym bellach yn ymchwilio i'w methiant i ymateb i hysbysiadau gwybodaeth statudol gan Ofcom.

Camau nesaf

Rydym bellach yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth i weld a yw ein rheolau wedi cael eu torri. Os yw ein hasesiad yn dangos eu bod wedi cael eu torri, byddwn yn cyhoeddi hysbysiadau dros dro o dorri rheolau i gwmnïau, a all wedyn wneud sylwadau ar ein canfyddiadau, cyn i ni wneud ein penderfyniadau terfynol.

Byddwn yn rhoi diweddariadau ar yr ymchwiliadau hyn cyn gynted â phosibl.