
Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i IX Wireless ynghylch ei gydymffurfiaeth â'r Cod Cyfathrebu Electronig (ECC).
Mae rheoliadau ECC yn galluogi gosod, cynnal a chadw rhwydweithiau cyfathrebu, yn amodol ar amodau penodol.
Rydym yn ymchwilio i weld a yw IX Wireless wedi cydymffurfio â'r gofynion i sicrhau bod llinellau sydd wedi'u gosod dros gerbytffordd priffordd a gynhelir yn cael eu gosod o leiaf 5.5 metr uwchben wyneb y ffordd. Rydym hefyd yn edrych ar gydymffurfio â rheolau ynghylch gwaith archwilio a chynnal a chadw o seilwaith i sicrhau nad yw'n achosi difrod neu anaf.
Dyma ein hail ymchwiliad i IX Wireless, ar ôl agor ymchwiliad yn gynharach eleni am ofyniad ECC gwahanol, sy'n parhau i fynd rhagddo.
Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau ar yr ymchwiliadau hyn maes o law.