Royal Mail van close-up

Diwygio'r gwasanaeth post er mwyn darparu'r hyn sydd ei angen ar bobl

Cyhoeddwyd: 10 Gorffennaf 2025
  • Ofcom yn gosod targedau danfon ôl-stop newydd i'r Post Brenhinol er mwyn diogelu pobl rhag oedi hir
  • Newidiadau i ddanfon llythyrau Ail Ddosbarth er mwyn diogelu'r gwasanaeth cyffredinol
  • Ofcom i adolygu fforddiadwyedd post yng nghanol pryderon am brisiau stampiau

Bydd gan ddefnyddwyr post y DU fesurau diogelu ychwanegol rhag oedi hir wrth ddanfon, o dan ddiwygiadau i’r gwasanaeth cyffredinol a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom. Bydd hyn yn galluogi'r Post Brenhinol i wella dibynadwyedd a chefnogi gwasanaeth cynaliadwy.

Pam mae angen diwygio

Ers 2011, mae'r Post Brenhinol wedi gorfod danfon llythyrau Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth chwe diwrnod yr wythnos o dan y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Ond yn ystod y cyfnod hwnnw, mae nifer y llythyrau sy'n cael eu hanfon bob blwyddyn wedi mwy na haneru. Gyda llai o lythyrau'n cael eu danfon i bob tŷ ar rownd penodol, mae'r gost o ddanfon pob llythyr wedi cynyddu, ac mae'r Post Brenhinol wedi colli cannoedd o filiynau o bunnoedd dros y blynyddoedd diwethaf.[1]

Mae angen diwygio ar frys er mwyn i'r gwasanaeth cyffredinol oroesi. Mae Ofcom heddiw wedi gwneud newidiadau i'r rhwymedigaethau a osodir ar y cwmni er mwyn rhoi'r gwasanaeth ar sylfaen fwy cynaliadwy, i atal pobl rhag talu prisiau uwch nag sy'n angenrheidiol, ac i bwyso ar y Post Brenhinol i wella dibynadwyedd.

Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus gyda miloedd o bobl a sefydliadau – gan gynnwys grwpiau defnyddwyr, undebau, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, y Post Brenhinol a’r diwydiant post ehangach, yn ogystal â defnyddwyr post yn uniongyrchol – o bob cwr o’r DU.

Rydym hefyd wedi lansio adolygiad o brisio a fforddiadwyedd, a fydd yn ystyried pryderon y mae llawer o bobl a sefydliadau wedi'u codi ynghylch prisiau stampiau. Rydym yn bwriadu ymgynghori ar hyn y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Natalie Black, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom: “Er budd defnyddwyr a busnesau y mae’r newidiadau hyn, gan fod angen diwygio'r gwasanaeth post ar frys er mwyn rhoi'r cyfle gorau iddo oroesi. 

“Ond ni fydd newid dyletswyddau'r Post Brenhinol ar ei ben ei hun yn gwarantu gwell gwasanaeth - mae'n rhaid i'r cwmni nawr chwarae ei ran a gweithredu hyn yn effeithiol. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod y Post Brenhinol yn glir gyda'i gwsmeriaid am yr hyn sy'n digwydd, ac yn trosglwyddo manteision y newidiadau hyn iddynt.

“Fel rhan o'r broses hon, rydym wedi bod yn gwrando ar bryderon ynghylch y cynnydd mewn prisiau stampiau. Felly rydym wedi lansio adolygiad o fforddiadwyedd ac rydym yn bwriadu ymgynghori'n gyhoeddus ar hyn y flwyddyn nesaf.”

Yr hyn y bydd diwygio yn ei gyflawni

Mae ein hymchwil yn awgrymu bod fforddiadwyedd a dibynadwyedd yn bwysicach i bobl na chyflymder danfon, ond maent yn gwerthfawrogi cael gwasanaeth y diwrnod canlynol pan fydd angen iddynt anfon ambell eitem ar frys. Felly, bydd yn dal yn ofynnol i'r Post Brenhinol ddanfon llythyrau Dosbarth Cyntaf y diwrnod gwaith canlynol, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a bydd cap yn parhau ar bris stamp Ail Ddosbarth.

Fodd bynnag, mae pobl wedi dweud wrthym nad yw'r rhan fwyaf o lythyrau'n rhai brys, ac nad oes angen iddynt gael eu danfon chwe diwrnod yr wythnos ar gyfer y rhan fwyaf o lythyrau. Felly, o 28 Gorffennaf ymlaen, byddwn yn caniatáu i’r Post Brenhinol ddanfon llythyrau Ail Ddosbarth bob yn ail ddiwrnod yn ystod yr wythnos – o fewn tri diwrnod gwaith i’w casglu – o ddydd Llun i ddydd Gwener.[2]

Rydym yn amcangyfrif y gallai'r Post Brenhinol wireddu arbedion cost net blynyddol o rhwng £250m a £425m drwy roi'r newid hwn ar waith yn llwyddiannus, gan ei alluogi i fuddsoddi mwy mewn gwella perfformiad o ran danfon. Rydym wedi dweud wrth y Post Brenhinol am gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda chyrff defnyddwyr a grwpiau diwydiant i glywed am brofiadau pobl a busnesau wrth iddo roi'r newidiadau hyn ar waith.[3]

Mae ein hymchwil hefyd yn dangos y byddai gostyngiadau bach yn nhargedau danfon y Post Brenhinol yn parhau i ddiwallu anghenion pobl. Byddai cynnal y targedau presennol - sy'n fwy ymestynnol na gwledydd Ewropeaidd tebyg - yn golygu costau uwch y byddai angen eu hadennill drwy brisiau uwch.

Felly, rydym yn gwneud newidiadau bach i dargedau danfon presennol y Post Brenhinol – danfon 90% yn hytrach na 93% o bost Dosbarth Cyntaf y diwrnod canlynol, a danfon 95% yn hytrach na 98.5% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod. Mae'r targedau newydd hyn yn uchel yn ôl safonau rhyngwladol.[4]

Fodd bynnag, mae llawer o bobl wedi wynebu oedi hir ac wedi aros wythnosau i lythyrau gyrraedd. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, rydym wedi gosod targedau ôl-stop gorfodadwy newydd i'r Post Brenhinol fel bod yn rhaid danfon 99% o bost o fewn dau ddiwrnod fan bellaf.


Nodiadau i olygyddion: 

  1. Yn 2011/12, fe wnaeth y Post Brenhinol ddanfon 14.3 biliwn o lythyrau. Yn 2023/24, 6.6 biliwn oedd y swm hwnnw. Ers 2008, mae refeniw'r Post Brenhinol o lythyrau wedi gostwng o £6.9bn i £3.7bn. Yn 2023/24, fe wnaeth y Post Brenhinol golled o £348m, ac yn 2022/23 fe wnaeth golled o £419m.
  2. Enghreifftiau o amserlen danfon bob yn ail ddiwrnod yn ystod yr wythnos ar gyfer llythyrau Ail Ddosbarth, a’r effaith ar ddanfon llythyrau:
    Picture1
    Picture2
  3. ‘Post swmp’ yw’r rhan fwyaf o’r llythyrau a anfonir heddiw (63%) – y llythyrau a anfonir gan sefydliadau mawr megis banciau, adrannau’r llywodraeth, y GIG neu awdurdodau lleol. Anfonir y llythyrau hyn y tu allan i’r gwasanaeth cyffredinol. Rydym yn mynnu bod y Post Brenhinol yn darparu mynediad i’w rwydwaith llythyrau, sy’n golygu bod yn rhaid iddo ddanfon llythyrau sy’n cael eu casglu gan gwmnïau post eraill. Mae’r Post Brenhinol yn defnyddio’r un rhwydwaith i ddanfon post y gwasanaeth cyffredinol a phost swmp. Er mwyn gwireddu manteision unrhyw ddiwygiadau i’r gwasanaeth cyffredinol, rydym hefyd yn gwneud newidiadau i’r rhwymedigaethau mynediad ar y Post Brenhinol, er mwyn iddo allu cysoni ei weithrediadau. 
  4. Targed tri diwrnod yr Almaen yw 95%, mae Sbaen yn 93%, ac mae Norwy a Gwlad Pwyl yn 85%.
Yn ôl i'r brig