
Mae Ofcom yn gwahodd barn ar ddulliau o brisio stampiau yn y dyfodol i sicrhau fod gan bobl fynediad i wasanaeth post cyffredinol fforddiadwy.
Rydym yn adolygu fforddiadwyedd gwasanaethau post yn y DU yn rheolaidd. Heddiw, rydym wedi cychwyn ein rownd ddiweddaraf o waith yn y maes hwn drwy rannu ein meddyliau cynnar fel y gall partïon sydd â diddordeb roi mewnbwn cyn i ni ymgynghori ar gynigion cadarn y flwyddyn nesaf.
Pris post
Yn ôl y data diweddaraf sydd ar gael gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn 2023/24 gwariodd aelwyd gyfartalog y DU 60c yr wythnos ar bob gwasanaethau post, sy'n cynrychioli 0.11% o gyfanswm y gwariant wythnosol, i lawr o 90c yn 2020/21. Mae hyn yn cynnwys ffioedd dosbarthu ar gyfer eitemau a brynir ar-lein, felly bydd y swm cyfartalog y mae pobl yn ei wario ar anfon llythyrau hyd yn oed yn llai na hyn.
Mae pris stamp Dosbarth Cyntaf wedi codi o 85c i £1.70 yn ystod y pedair blynedd diwethaf, ac mae stampiau Ail Ddosbarth wedi cynyddu o 66c i 87c dros yr un cyfnod. Nid yw'r DU yn unigryw o ran gweld prisiau llythyrau’n codi.
Rheoleiddio prisiau stampiau cyfredol
Mae gan Ofcom ddyletswydd i sicrhau bod gan bobl fynediad at wasanaeth post cyffredinol fforddiadwy, ac i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth cyffredinol yn gynaliadwy yn ariannol. Y Post Brenhinol yw darparwr dynodedig y gwasanaeth cyffredinol yn y DU, ac mae'n parhau i fod yr unig ddosbarthwr llythyrau o ddrws i ddrws yn y DU ar raddfa genedlaethol. Mae hyn yn golygu na allwn ddibynnu ar gystadleuaeth i sicrhau bod prisiau'n parhau i fod yn fforddiadwy.
Yn y cyfamser, wrth i nifer y llythyrau sy'n cael eu danfon i bob tŷ barhau i ostwng, mae'r gost o ddanfon pob llythyr wedi cynyddu. Mae hyn wedi gwanhau sefyllfa ariannol y Post Brenhinol ac yn bygwth cynaliadwyedd y gwasanaeth cyffredinol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi ceisio sicrhau gwasanaeth fforddiadwy a chynaliadwy trwy osod cap diogelu ar bris stamp Ail Ddosbarth, gan adael hyblygrwydd prisio i'r Post Brenhinol ar gyfer Dosbarth Cyntaf. Mae'r cap Ail Ddosbarth presennol yn rhedeg tan fis Mawrth 2027, ac mae angen i ni ddechrau'r broses o adolygu a ddylid gweithredu cap newydd.
Archwilio 'tariff cymdeithasol' ar gyfer prisiau stampiau
Mae ein hymchwil blaenorol yn awgrymu nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn profi niwed sylweddol o ganlyniad i brisiau post, er bod rhywfaint o dystiolaeth bod rhai cwsmeriaid agored i niwed yn profi heriau fforddiadwyedd, yn enwedig y rhai ar incwm isel. Felly, credwn fod rhinwedd mewn archwilio opsiynau yn ogystal â’r cap diogelu presennol yn ein hadolygiad fforddiadwyedd nesaf ac rydym wedi nodi ein syniadau cynnar ar hyn.
Er enghraifft, gallai cynllun disgownt wedi'i dargedu ar gyfer cwsmeriaid agored i niwed roi mwy o gymorth i'r rhai sy'n wynebu'r heriau mwyaf wrth fforddio i anfon llythyrau. Byddai'r dull hwn yn debyg i 'dariff cymdeithasol', fel y pecynnau ffôn a band eang rhatach presennol sydd ar gael i bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau eraill. Rydym wedi nodi ein syniadau cychwynnol ar yr egwyddorion allweddol a'r dewisiadau dylunio a allai arwain at gynllun effeithiol.
Camau nesaf
Rydym yn croesawu sylwadau ar y materion a'r safbwyntiau a nodwyd gennym heddiw erbyn 5 Rhagfyr 2025, a byddwn yn ystyried y rhain wrth ddatblygu ein cynigion ar gyfer ymgynghori, yr ydym yn bwriadu eu cyhoeddi yn chwarter cyntaf 2026.